Roeddwn ni, teulu Bod Eglur, draw yng nghornel ddeheol-orllewinol
Bro Hydref, Tiriogaeth Chubut, –amser hynny- Ariannin, yn siarad Cymraeg yn ein aelwyd, a
dim ond Cymraeg â’n gylydd. Cymraeg fuodd yr iaith â glywais oddi ar fy nghrhud,
a’r unig â siaredais hyd at y dydd cyntaf o fy ysgol cynradd pan fu rhaid i mi
ddechreu defnyddio’r Sbanaeg cyda’r cyfarch ¡Buenos
días, maestro! = Bore da, athraw! Reoddwn wedi cael fy nysgu a chynghori i
hynny gan fy mrawd a fy ddwy chwaer oedd wedi dechre’r ysgol rhai blynyddoedd
gynt.
Buan iawn daeth y Sbanaeg i fod yn
offerin angenrheidiol ar bôb cam allan o’n bywyd cartrefol a fe ddês i adnabod
ei rheolau a’i chyfoeth, tra ar yr un hewl a phryd, ond ar yr law arall,
golygod hyn i’r Cymraeg beidio cynnyddu ynof mwy na beth ddysgais gartre pan yn
blentyn, cartref o’r sawl ehedais allan yn ifanc a gwahanais o’r teulu a’r
gymdeithas Gymreig. Ychydug o droeon ar hyd y blynyddoedd, pan cyfarfod â hwy
ar rhyw amgylchiadau arbennig, roedd y Cymraeg yn tarddu ohonof ond nid pôb tro
roedd fy nghlust ddigon parod i ddeall, fy nhafod yn ddigon ystwyth na fy
ngheirfa yn ddigon cyfoethog i ddeud beth roeddwn yn dymyno. Prin, agosach peth
i ddim, fuodd peth ddarllenais yn Gymraeg, ond triais gael recordiau canu
Cymraeg i’m rhan, achos roedd yr unigedd – a’r hiraeth - yn gwasgu’n drom
arnaf. Cefais gyfle anrhydeddus yn 1969 i dreulio pythefnos yng nghartre’r Dr.
Tom Pritchard a’i wraeg ym Mangor, ac yno gwelais cymaent o wahaniaeth oedd
rhwng ein Cymraeg cartrefol a’r iaith cyfoes
oedd yn cael ei defnyddio draw ar y pryd.
Wedi ymddeol o bôb swydd ac yn rhudd
o bôb cyfrifoldeb cyhoeddus, ac yn berchenog ar lawer mwy o amser i fy hun, ceisiais
gystadlu’n llenyddiaeth Cymreig yn eisteddfodau Trevelin, Porth Madryn a Threlew,
ond truenus, gwarthus iawn fuodd y ffrwyth. Mor wael – n’ôl geiriau’r amrhyw a
gwahanol berniadau - nes teimlais gymysgedd o ofid, cywilydd, yn ddyledus tuag
at fy hun ac tuag at y sylfain diwylliannol Gymreig roeddwn wedi etifeddu, ac ofnus iddi fod yn
rhi hwyr iw mwynhau. Yna, gwnês un o’r pethau calach a goreu yn fy mywyd: galw
am gymorth. Trwy awgrym Elvira Austin, atebodd yr Athawes Cathrin Williams yn
fuan iawn, ac trwy’r e-bost cefais ei arweiniad gwerthfawr i cychwyn... a’i
anogaeth...a’i drefn droion, am fod ddim digon gofalus yn fy ngwersi orgraff.
Cynghorodd hi yn arw y ddylwn ddefnydio’r geiriadur yn amlach. Ddar hynny, mae
o’n offerin angenrheidiol os dymunaf ysgrifennu...ond, dydy deud fod o’n
angenrheidiol ddim yn golygu fy mod yn ymgynghori ag e bob tro... gallwch
dybio... Ta sut, mae ysgrifennu Cymraeg yn weddol dda yn golygu i fi ddarparu
llawer o amser ac ymroddiad... ac eto ydy hynny ddim yn sicrwyd na warant o
gywirdeb...ond mi ydw i’n mwynhau yn fawr iawn!
Rhyw brynhawn ganol Ebrill 2007,
cefais alwad trw’r ffôn oddi wrth ysgrifennyddes Pwyllgor Eisteddfod Trevelin,
Beatriz Palomino, yn rhoi fi ar wybod bod fy ngwaith “Caniedydd”
wedi ennill y Gadair. Gofynnais iddi am ganiatâd y eistedd lawr cyn dal ymlaen
â’r neges!!
01 –Cadair yr
Eisteddfod: cyfres o benillion heb fod dros 60 llinell
CANIEDYDD
Caniedydd aelwyd daeth im rhan,
yn llawn o foliant amseroedd gynt.
Ac
er dystawredd ar nodion y sol fa
a mudsain ar eiriau’r celtig iaeth,
clywaf oddi arno
yn hollol glir
tystiolaethau pererinion ar ei
taith,
ac rhyngddynt, yn tarddi’n bur
eglur leusiau fy nhad a mam.
Ein cofio maent am faint a hyd
y
Tri yn Un oedd cyn llunio’r byd.[1]
Gwahoddant arnom: ¡Oh deuwch
ffyddloniad! [2]
o
herwydd: ¡Wele, cawsom y Meseua! [3]
Galwant ein sylw ¡Edifarhewch!,
llefarant am râs i fyw yn well [4]
ac am adenydd i hedfan ymhell. [5]
Cyfeiriant am lywodraeth mor fawr
nes
uno’r nefoedd ar llawr. [6]
Dywedant am fawredd Iesu yn Ddyn a
Duw, [7]
ein Tâd, yr hwn sydd wrth y llyw.[8]
Soniant am ganu ynghyd yn hy ein Tad [9]
ag am faddeuant hollol rhad,
am faddeuant a hêdd [10]
am fod Ef yn gwrando ar eun llêf.
Cyfeirio maent am addewid y Gair:
“Chwi a dderbyniwch nerth,” [11]
ar ein taith.
Ac
felly, ir lluoedd o galonau glân
ni
bydd diwedd byth ir gân
na bydd diwedd, chwaith,
byth ar swn y delyn aur.[12]
Casun
o brethyn cartre yn gorchuddio’r perlau pert...
Hol bysedd brass ar ddalenau’r papur
main.
Trysor death, trwy râs, im llaw
i’m cofio’n annwyl am y rhienol gartre
a’r hên gapel draw.
EiDDWR
Ychydug fisoedd nês ymlaen, yn sydyn
ar ddechre’r cyfarfod y nawn yn Eisteddfod Trelew 2007, mawr fu fy syndod a’m
llawenydd pan glywais beirniadaeth ar y testyn: 3. Soned/dau: “Y Môr”yn cyhoeddu fod ymgais Morfab yn deilwng o’r
wobr! Medras beidio neidio o’r sedd a gweiddi allan ¡bravo!
Fynnodd ffurfafen ynghanol y moroedd
i wahanu rhwng y dyfroedd a’r dyfroedd...
chasgliad y dyfroed a alwodd yn Foroedd.[13]
...a’r môr sydd’n
unom neu’n gwahanu erioed.
Dros ddyfroedd y
môr ehedodd eu pryder
am rhyddyd ir
ysbryd, traddodiad a’r iaith,
o’r Walia werdd,
o’r gwasgiad a’r caethder
i’r Wladfa lwydir,
i’r lledur ac i’r paith.
Trwy fforfydd y môr
daethant i’r dyffryn
a phan daeth yr
amser pan eu pennau’n wyn
y môr bu’r
attaliaith iw rhwystro yn ol,
tra draw, dros y
môr, gwynebau eu tadau
yn hiraethus yn
dysgwyl, yn edrych, yn nôl
a’r donnau y môr,
cyn gostwng i’r beddau.
[1] Pedr Bardd. Caniedydd Cynulleidfaol
Newydd. Llundain l921. Rhif y dôn 747
[2] An.Op.cit. Rhif y dôn 1171
[3] Davidd Jones Op.cit. Rhif y dôn 414
[4] Elfed Op. cit. Rhif y dôn: 80
[6] J.Williams St.Athan Op.cit.,. Rhif
y dôn 654
[8] Glan Geirionydd Op.cit. Rhif y dön
89
[9] Pedr Hir. Op.cit. Rhif y dôn 453
[10] Hawen Op.cit.. Rhif y dôn
795
[11] Y Beibl – Yr Actau 1:8
[12] W.Williams Op.cit Rhif yr emyn: 145
No hay comentarios.:
Publicar un comentario